FB-f-Logo  blue 100 CreigiauCarnival2016

Twitter logo blue @CreigiauCarnvl   #creigiaucarnival

Croeso i wefan Carnifal Creigiau.

  • 2015
  • 2014
  • 2011a
  • fun2
  • fun4
  • games
  • games2
  • fun3

Diwrnod y Carnifal

Mae’r fflotiau lliwgar yn ymlwybro drwy’r pentref, ar droed neu ar gerbyd, gyda thrigolion yr ardal yn dilyn.

Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn cynnig fflot. Mi fydd manylion yn cael eu hanfon adref gyda’r plant, neu cysylltwch a ni yma.

Mae yna wobrau i unigolion a grwpiau yn y gystadleuaeth gwisg ffansi.

Mae’r orymdaith yn casglu am 1.00yp ac yn dechrau ar ei thaith o gwmpas y pentref i gyrraedd y Rec erbyn 2.00yp a dyma’r hwyl yn dechrau!

Cystadleuaeth gwisg ffansi, llwyth o gemau a sioeau, stondinau’n gwerthu popeth dan haul, pabell diodydd, bwyd poeth ac oer, danteithion a melysion a llawer iawn mwy!

Mae angen prynu rhaglen y Carnifal i gael mynediad. Maen nhw ar werth cyn ac yn ystod y Carnifal. Diolch yn fawr i gwmniau lleol sy’n hysbysebu ynddi – cofiwch eu cefnogi.

Mi welwn ni chi yno!

 

Ras Hwyl

Mi fydd y Ras Hwyl am 10.00 am ar ddydd Sadwrn, 17fed o Fehefin ar y Rec. Mae gwobrau ar gyfer pob oedran, ond mae tadau’n gyndyn i ymuno felly blantos – gwthiwch nhw!.